CYFANSODDIAD FFORWM HANES CYMRU
Cyffredinol (Datganiad o Genhadaeth)
Gorchwyl y Fforwm hwn yw gweithredu fel teulu o fudiadau ac unigolion sydd â diddordeb yn hanes Cymru ac sydd yn uned hunan ddiffiniol o bobl na ellir ei chyfyngu gan ffiniau statudol.
Teitl
Caiff y Fforwm hwn ei adnabod fel Fforwm Hanes Cymru.
Amcanion
1) Hybu diddordeb yn hanes Cymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
2) Rhwydweithio gweithgareddau’r cymdeithasau sy’n gysylltiedig ag ef.
3) Hybu gwaith ymchwil i hanes Cymru, yn lleol ac yn rhyngwladol.
4) Hybu’r gwaith o gyhoeddi canlyniadau’r gweithiau ymchwil hyn.
5) Hybu’r gwaith o ddiogelu a chadw arteffactau, deunydd archifol ac adeiladau o
werth hanesyddol
lle mae hynny’n briodol.
6) I gefnogi cadw ac annog dilysrwydd cyfartal i’r iaith Gymraeg a’r iaith
Saesneg, gan weithredu ei
fusnes, lle bo hynny’n bosib, yn ddwyieithog.
7) I addysgu’r cyhoedd am hanes Cymru.
Bwriadau
1) Darparu mannau arddangos pan yw’n bosib yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mewn digwyddiadau cyffelyb ar gyfer y cymdeithasau hynny sy’n aelodau.
2) Noddi darlith flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar unrhyw agwedd ar hanes Cymru.
3) Noddi arddangosfeydd eraill ar hanes Cymru lle mae’n briodol.
4) Gweithredu fel lladmerydd dros yr aelodau mewn trafodaethau gyda chyrff cenedlaethol, yn unol â’r hyn y cytunir arno mewn cyfarfod o’r pwyllgor gwaith.
5) Cydweithio â chymdeithasau eraill i ymestyn amcanion y Fforwm.
6) Hyrwyddo’r dymuniad i ddileu unrhyw dueddiadau oedd yn bodoli o’r blaen, a lle mae’n briodol, ail gyflwyno’r ffeithiau sy’n wybyddus ar hanes Cymru a’u cyflwyno wedyn ar
ffurf arddangosfeydd, cyhoeddiadau neu trwy ddulliau priodol eraill.
7) Hyrwyddo’r alwad i ddysgu gwir hanes Cymru o safbwynt Cymreig mewn ysgolion.
Galluoedd
Bydd gan y Fforwm hwn yr hawl i wneud popeth cyfreithiol sy’n angenrheidiol neu sy’n gyfleus iddo gyflawni ei amcanion a’i fwriadau.
Bydd y Fforwm yn hwyluso, annog, cynnal, darparu a hysbysebu fel bo’r angen er mwyn cyflawni ei amcanion a’i fwriadau.
Gall y Fforwm sefydlu is-bwyllgorau ond ni all unrhyw benderfyniad gan y cyfryw is-bwyllgorau ddisodli unrhyw benderfyniad a wneir gan y Pwyllgor Gwaith.
Mae gan y Fforwm awdurdod i godi arian, gwneud ceisiadau i gyrff sy’n dyrannu arian, a gwahodd a derbyn cyfraniadau er mwyn cyflawni ei nod a’i amcanion.
Yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol bydd modd pennu tâl aelodaeth ar gymdeithasau ac unigolion sy’n perthyn.
Rheolau Sefydlog ar gyfer rhedeg y Fforwm:
Gall unrhyw gymdeithas hanes, ac unigolion sydd â diddordeb mewn unrhyw agwedd o hanes Cymru, fod yn aelod.
Ni fydd unrhyw ddatganiad gan aelod o’r Fforwm ar bolisi neu unrhyw weithred fel ysgrifennu llythyr neu godi arian, yn llyffetheirio’r Fforwm, oni bai fod hynny wedi derbyn sêl bendith y Pwyllgor Gwaith.
Bydd unrhyw aelod sy’n gwneud datganiad o’r fath neu sy’n gweithredu yn y ffordd honno, heb ganiatâd y Pwyllgor Gwaith yn cael ei ystyried fel un sydd wedi torri amodau’r aelodaeth ac o ganlyniad bydd yn ofynnol iddo ymddiswyddo’n syth.
Ni waeth beth sydd yn y cymal olaf hwn, rhoddir awdurdod i’r Pwyllgor Gwaith i ystyried unrhyw achos arbennig a gweithredu ar ganlyniad unrhyw benderfyniad a wneir o ganlyniad i hynny.
Cynrychiolir y cymdeithasau sy’n aelodau gan un aelod â phleidlais ar y Pwyllgor Gwaith. Bydd ef neu hi yn cael yr hawl i bleidleisio dros y gymdeithas neu’r cymdeithasau sydd wedi ei ethol/ei hethol, os apwyntiwyd ef neu hi gan fwy nag un corff; oni bai fod lleiafrif o bedwar unigolyn yn bresennol i wneud cworwm. Rhoddir yr hawl i aelodau unigol sy’n talu eu tâl eu hunain fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith ond ni fydd ganddynt bleidlais.
Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) yn cael ei gynnal bob blwyddyn, o fewn pymtheg mis i’r CCB blaenorol, a bydd yn agored i’r cyhoedd. Bydd yr aelodau yn cael eu hysbysu o leiaf bythefnos cyn y dyddiad. Y Pwyllgor Gwaith fydd yn pennu’r dyddiad hwnnw a bydd yn cael ei arddangos mewn mannau priodol.
Chwech o aelodau etholedig fydd Cworwm yn y Cyfarfod Cyffredinol Arbennig. Rhoddir yr hawl i unrhyw aelod sy’n bresennol i fwrw pleidlais ar ran y mudiadau y mae ef neu hi wedi ei ethol/ei hethol i’w gynrychioli, pe apwyntir ef neu hi gan fwy nag un corff; oni bai fod lleiafrif o chwech unigolyn yn bresennol yn y cyfarfod i greu cworwm. Os nad oes cworwm fe fydd unrhyw ddeliad busnes yn cael ei ddilysu yng nghyfarfod dilynol o’r Pwyllgor Gwaith.
Bydd y CCB yn ethol Cadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd ac unrhyw swyddogion eraill sy’n briodol i wasanaethu nes y gelwir y CCB nesaf.
Etholir trwy ddangos dwylo oni bai fod cynnig yn cael ei basio fel arall.
Bydd y trysorydd yn rhoi adroddiad ariannol i’r CCB am y flwyddyn ariannol flaenorol, fydd yn weithredol o 1 Ionawr hyd at 31 Rhagfyr bob blwyddyn.
Pennir y tâl aelodaeth am y flwyddyn yn y CCB.
Penodir aseswr neu archwilydd yn y CCB.
Mae modd cynnal Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ar unrhyw adeg yn dilyn cais trwy lythyr at y Cadeirydd. Rhaid i’r cais nodi’r math o fusnes sydd angen ei drafod, a bod wedi’i arwyddo gan o leiaf 6 aelod etholedig. Rhaid i’r cyfarfod gael ei gynnal o fewn 21 diwrnod, a’r aelodau’n cael eu hysbysu 14 diwrnod cyn y cyfarfod.
Y Pwyllgor Gwaith fydd yn rheoli busnes y Fforwm, ac fe fydd modd iddo ddirprwyo awdurdod. Bydd yn cyfarfod yn rheolaidd i fonitro ac i annog gweithgareddau a threfnu ymrwymiadau blynyddol y Fforwm.
Gall y Pwyllgor Gwaith gyfethol aelodau i roi cyngor arbenigol, ond aelodau heb bleidlais fydd rhain.
Bydd unrhyw bleidlais mewn unrhyw gyfarfod yn dibynnu ar y mwyafrif o’r rhai sy’n bresennol. Lle mae’r bleidlais yn gyfartal, fe fydd gan y Cadeirydd ail bleidlais derfynol.
Bydd aelodau’r pwyllgor yn datgan diddordeb cyn pleidleisio.
Mae’n bosib newid y cyfansoddiad yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu Gyfarfod Arbennig trwy fwyafrif syml.
Os bydd y Pwyllgor Gwaith yn penderfynu dirwyn y Fforwm i ben, fe fydd yn galw cyfarfod Cyffredinol Arbennig gan roi 14 diwrnod o rybudd. Os yw’r cynnig i ddirwyn y Fforwm i ben yn cael ei dderbyn gan y mwyafrif, yna bydd y Fforwm yn dod i ben, ac fe fydd yr arian sy’n weddill yn cael ei rannu’n gyfartal i’r cymdeithasau sy’n aelodau.