Fforwm Hanes Cymru

Yn cyd-gysylltu hanes Cymru

Welsh Flag

History Forum for Wales

Co-ordinating the history of Wales

 

site designed & maintained by
www.cddweb.co.uk

ABATY CWMHIR

HANES Yr ABATY

 

Abbey Cwmhir [English language page]

Abbey Cwm Hir
Pen o faen a ddarganfwyd wrth Dy Faenor, bellach yn Amgueddfa Llandrindod.

Plan of Abbey Cwm Hir

 

Click for a larger image of the plan.
Map of Abbey Cwm Hir
Click for a larger map.

Saif adfeilion Abaty Cwmhir mewn cwm prydferth yn hen gwmwd Gwerthrynion, yng Nghanolbarth Cymru. Er mai dim ond ychydig o'r muriau sy'n weddill, mae amlinell corif yr Abaty i'w gweld o hyd. Yr oedd yr eglwys yn 246 throedfedd o hyd, a hi oedd y fwyaf ond dwy o holl eglwysi Prydain; eglwysi cadeiriol mawreddog Durham a Chaerwynt yn unig oedd yn fwy. Beth a digwyddodd i'r eglwys Gymreig fawreddog hon, a ble mae'r cerrig o'r piled ac o'r bwâu uchel?

 

 

HANES

Fe sefydlwyd Abaty'r Cwmhir ym 1143 gan Faredudd, Cadwallon ac Einion, meibion i Fadog tywysog Maelienydd. Yr oedd y brodyr yn gyfeillion i'r Arglwydd Rhys, rheolwr y Deheubarth, a noddai fynachlog Sistersiaidd yn Nhrefgarn ger yr Hendygwyn. Efe a anogodd deulu Madog i sefydlu merch abaty yng Mghwmhir.

Fe fethodd y Gymuned pan ymosodd Huw Mortimer, larll Henffordd, ar y Canolbarth a gyrru noddwyr yr Abaty i ffwrdd; aeth y mynachod yn ôl i Drefgarn. Ond ym 1176, adferodd yr Arglwydd Rhys y tywysogion, ac fe roddwyd tir i ail-sefydlu'r abaty gan Cadwallon ap Madog. Bu farw Rhys ym 1197; ailfeddiannwyd yr ardal gan y Mortmeriaid, a gyflwynodd Siarter Normaniaidd i'r Abaty.

Mae pensaerniaeth yr Abaty yn awgrymu bod Rhosier Mortmer wedi dechrau codi'r Abaty a cherrig, i gymryd lle'r adeilad cynharach (adeilad bren, mae'n debyg).

Ymadawodd y mynachod Cymraeg eu hiaith (a deimlai nad allent fyw dan ormes y Normaniaid) i sefydlu abaty, y Cymer, ger Dolgellau.

Pan adenillodd Llywelyn II (Fawr) annibyniaeth i Gymru ym 1228, dechreuodd hwnnw droi'r Abaty yn Eglwys Gadeiriol genedlaethol fawreddog. Yr oedd Llywelyn yn gyfeillgar â theulu Corbett, perchnogion chwareli cerrig Grinshill ger Amwythig a Mortmeriaid Swydd Henffordd. Cludwyd cerrig Grinshill ganddo ar gyfer yr Abaty hwn a rhai o'i adeiladau mawreddog eraill. Fe'i rhwystrwyd yn ei gynlluniau gan Harri III o Loegr, a fygythiai ddinistrio'r Abaty pe na thelid dirwy anferth am fod mynach wedi arwain y fyddin Seisnig i gan y Cymry.

Golygodd talu'r ddirwy hon tod yr Abaty'n diawd am flynyddoedd maith ac na allai fforddio gwneud llawer o welliannau i'r eglwys. Ar ôl Llywelyn a'i ŵyr Llywelyn II, adfeddianodd y Mortmeriaid Sir Faesyfed a'i rheoli tan y 15fed ganrif.

Ym 1401-2 bu ymosodiad ar adeiladau'r Abaty Normanaidd gan Owain Glynd ŵ r, a unodd Gymru drachefn. Ond fe atgyweiriwyd y difrod yn ddiweddarach gan y mynachod, a pharhaodd yr Abaty hyd nes ei ddiddymu gan Harri VIIl o Loegr ym 1539.

Teulu'r Fowleriaid oedd biau safle'r Abaty yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr (1643-1645). Hwy a amddiffynnodd y clostrau rhag Iluoedd y Senedd, ond fe dinistriwyd llawer gan ergydion y gynnau mawr.

Yn ystod adeg Glynd ŵ r fe gludwyd cerrig o'r adeiladau drylliedig er mwyn ailgodi plastai ei gefnogwyr lleol. Ar ôl Diddymu'r mynachlogydd fe gludwyd cerrig o eglwys yr Abaty er mwyn adfer nifer o eglwysi lleol, gan gynnwys eglwys Llanidloes. Yn sgîl clirio'r safle ym 1824 a 1837, fe ddygwyd llawer mwy o gerrig ar gyfer adeiladau lleol, gan gynnwys yr eglwys plwyf flaenorol, yn ogystal â'u defnyddio i wneud balast ffordd yn y 19eg ganrif. O'r 15fed ganrif i'r presennol, defnyddid adeiladau'r Abaty fel ffynhonnell cerrig parod.

 

LLWYBR Y MEINI

Gwnaethpwyd muriau'r Abaty o leidfaen a thywodfeini lleol. Yr oedd y cerrig hyn yn llawer rhy galed i'w Ilifio ac fe'u defnyddiwyd ar gyfer muriau dwbl wedi'u llenwi a rwbel. Nid oes yng Nghymru faen addas i'w gerfio, a thywodfaen Grinshill oedd y ffynhonnell agosaf. Fe gludid y cerrig am 60 milltir dros dir llethrog i fod yn bileri, bwâu ffenestri, drysau a cheriiadau i'r eglwys hardd hon. Mae'n hawdd canfod eu Iliw mêl ym muriau adeiladau lleol. Rhaid taw cerrig o adfeilion yr Abaty ydynt, oblegid yr oeddynt yn rhy ddrud i bob! leol.

 

Allwch chi ddilyn y llwybr?

Ewch i'r gorllewin o Abaty Cwrnhir i Fwlch y Sarnau lle y gellir gweld y blociau cyntaf o faen Grinshill ym mur sied y Ganolfan Gymdeithasol ger y ffordd. Wedyn ewch drwy Bant y Dŵr i Lanidloes.

 

LLANIDLOES

Ym 1542 penderfynodd wardeniaid plwyf Llanidloes ailadeiladu eu heglwys. Cymerasant bedwar piler o leiaf o ochr ogledd-ddwyreiniol corti yr Abaty yn ogystal â'r piler a gynhaliai gornel ogledd-orllewinol y t ŵ r. Gwnaethpwyd pum bâ'r arcêd yn eu heglwys ailgodedig o bileri'r Abaty. Defnyddiwyd ychydig o faen cerfiedig ar gyfer ddrws de-orllewinol yr eglwys, a darnau ar gyfer y corbelau i gynnal y to pren. Credir bod distiau'r to a'u cynhalwyr cerfiedig rhyfedd wedi dod o'r Abaty hefyd. Ymddengys y steil fel gwaith o'r 15fed ganrif; yma, mae'n debyg, gellir canfod y to a roddwyd ar y Abaty ar ol ymosodiad Glynd ŵ r. Mae steil yr angylion yn diweddarach; fe'u rhoddwyd yno ym 1542 yn ôl pob tebyg). Gellir gweld nifer o flociau o faen Grinshill ym muriau allanol yr eglwys ac mae'n bosib taw o'r Abaty y daw'r meini uchaf ar wal y fynwent.

O'r Drenewydd trowch i'r de ar hyd yr A483 i Lanbadarn Fynydd. I'r dwyrain o'r pentref saif adfeilion Llinwent, hen gartref cefnogwyr Glyndŵr, lle y mae blociau Grinshill yn dal i orwedd o dan y glaswellt.

 

LLANBADARN FYNYDD

Ailadeiladwyd yr eglwys gan Stephen Williams, Rhaeadr, ym 1894 ac erys ychydigo dystiolaeth o adferiad yr 16fed ganrif.

Ond ar y nail! ochr i'r fynedfa a'r Hall mae pen piler o'r Abaty, ac yn y muriau allanol mae mwy o flociau o faen Grinshill. Mae'r ffenestr orllewinol yn y mur deheuol yn dyddio o'r 14eg ganrif, ac y mae'n arnlwg ei bod wedi'i hailospd yn ei safle presennol, ond rhai Victoriaid yw'r ffenestri tywodfaen eraill. Mae'r corbeli yn cynnal to o'r 15fed ganrif sydd yn debyg i'r to Llanidloes, ac efallai ei fod yn dyddio o adferiad tebyg yn yr 16fed ganrif (h.y. ar ol Diddymu' mynachlogydd).

 

LLANANNO

Ailadeiladwyd yr eglwys hon ym 1876-7 gan David Walker, ond mae'n cynnwys sgrin o grefftwaith y 15fed-16fed ganrif yn debyg i rai ym Maldwyn sydd wedi eu cerfio gan ysgol crefftwyr Maldwyn. Ychydig i'r de o eglwys Llananno saif Caeriaelog, sef yn 6l traddodiad, ffynhonnell y maen Grinshill cerfiedig bellach yn eglwys Llanbister. Ceir blociau o faen Grinshil ym muriau'r ty hwn, cartref gynt i ragor o berthnasau a chefnogwyr Owain Glyndŵr.

 

LLANBISTER

Dihangodd yr eglwys hon yr adferwyr yn Oes Fictoria, a cheir llawer o flociau o'r Abaty yn ei muriau. Gellir gweld ambell i flocyn ar ffrynt gorllewinol a mur deheuol yr eglwys. Y tu mewn i'r porth ceir chwe blocyn o faen lluniedig o bileri tebyg i' r rhai yn eglwys Llanidloes. I'r dde o ddrws yr eglwys mae basn dwr a wnaethpwyd o ben piler o'r Abaty wedi'i gafnu.

Y tu mewn i'r eglwys ger y fedyddfa mae piscina sydd hefyd yn ben piler o'r Abaty wedi'i gafnu.

Gorchuddir arwynebedd y tu mewn i'r tŵr a'r tu allan iddo gan ragor o flociau o faen Grinshill.

I'r de saif Llanddewi Ystradenni

 

LLANDDEWI YSTRADENNI

Ar un adeg fe berthynai Plas Llanddewi i gangen o deulu'r Hanmeriaid, perthnasau i Farged, gwraig Owain Glynd ŵ r. Adeilwyd y plasdy yn yr 16eg ganrif o gerrig o'r Abaty, a cheir meini Grinshill yn y gerddi ac yn y muriau. Mae gwaith cerrig Grinshill hefyd i'w weld yn Far Hall, ddwy filltir i'r dwyrain.

Mae gan yr eglwys Ddrws Offeriad, wedi'i gau yn llwyr bellach, a moldiau o garreg o'r Abaty, ac fe geir rhagor o gerrig Grinshill yn y muriau. Ailadeiladwyd yr eglwys gan Stephen Williams ym 1890, ac megis yn Llanbadarn Fynydd, fe guddir cerrig yr Abaty yn dda.

Cafodd eglwysi Llanbadarn Fawr a Llandegle eu hailadeiladu gan Stephen Williams. Credir taw o'r Abaty y daeth y Drws Offeiriad yn Llandegle. Nid maen Grinshill mohono, ond dyna beth yw'r pen cerfiedig uwchben. Maen Grinshill yw'r Tympanwm uwchben y drws yn Llanbadarn Fawr, ond oherwydd ardull y certio mae'n eithaf posib nad maen o'r Abaty ydyw.

Nantmel yw'r pentref i'r gorllewin ar hyd yr A44.

 

NANTMEL

Ailadeiladwyd yr eglwys ym 1792. Mae llawer o ddarnau o faen o'r Abaty yma yn y muriau allanol ac ym mhorth y fynwent, sydd hefyd o'r 18fed ganrif.

Pen piler wedi'i gafnu yw'r piscina.

Ceir hefyd rhagor o gerrig o'r Abaty yn Y Garth, rhwng eglwys Nantmel a'r Abaty. Fe gynnwys Neuadd Lwyd, ar lethr y bryn i'r de o'r A44 tua Rhaeadr, llawer o gerrig, ac mae'n bosibi iddi fod yn glafdy henafol.

 

ABBEY CWMHIR

Codwyd Plas Abaty Cwmhir yn Oes Fictoria, ond mae rhai o gerrig yr Abaty wedi'u hymgoffori yn y teras a muriau'r gerddi. Fe gynnwys llawer o'r tai yn y pentref flociau, yn enwedig yr hen Felin a Bythynnod y Felin. Saif Ty Faenor filltir i lawr y cwm tua Chroes Llanbadarn, ac y mae'n nodweddiadol o'r modd y defnyddid meini'r Abaty.

EIDDO PREIFAT YW'R TAI A'R FFERMYDD DAN SYLW YN Y DAFLEN HON. NID YDYNT YN AGORED I'R CYHOEDD, FELLY MAE'N WELL EDRYCH ARNYNT O'R FFORDD FAWR ER MWYN PARCHU PREIFATRWYDD Y PERCHNOGION.

DYMUNWN DAITH BLESURUS I CHI!

Cyhoeddir a chynhyrchir y datlen hon gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Abaty Cwmhir i gynorthwyo'r Gronfa Adfer. Ymchwil gan Dr John Davies. Cytieithiad Mr Dai Hawkins.

Noddirgan Sir Powys, Llandrindod, Powys, LD1 5LG Mehefin, 1993. Am ragor o wybodaeth am yr Abaty ei hun, gweler y daflen 'Yr Abaty yn Abaty Cwmhir', ar gael o Swyddfeydd Croeso a llyfrgelloedd.

top of page